Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Dafydd Elis-Thomas (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Russell George Vaughan Gething Llyr Huws Gruffydd Julie James William Powell David Rees Antoinette Sandbach |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Virginia Hawkins (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Nia Seaton (Ymchwilydd) Graham Winter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a chyflwyniadau
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. Cyflwynodd yr aelodau eu hunain gan nodi meysydd y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.
2. Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Ffyrdd o weithio
2.1 Cyflwynodd y Clerc bapur 1 ar ffyrdd y pwyllgor o weithio.
2.2 Cytunodd y pwyllgor i gynnal trafodaeth bellach ar ei ffyrdd o weithio yn y cyfarfod nesaf.
2.3 Cytunodd y pwyllgor i wahodd Gregg Jones o swyddfa’r gwasanaeth ymchwil ym Mrwsel i’r cyfarfod nesaf i drafod cyd-destun Ewropeaidd y portffolio.
3. Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Trafod materion o fewn y portffolio a chynigion ar gyfer blaenraglen waith y Pwyllgor
3.1 Cyflwynodd y gwasanaeth ymchwil bapur 2 ar feysydd allweddol yng nghylch gwaith y pwyllgor.
3.2 Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad i ynni ac y byddai’r gwasanaeth ymchwil yn paratoi papur cwmpasu a chylch gorchwyl drafft erbyn y cyfarfod nesaf.
3.3 Cytunodd y pwyllgor i wahodd y Prif Weinidog a Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i un o gyfarfodydd cyntaf y pwyllgor yn nhymor yr hydref.
3.4 Gofynnodd y pwyllgor i’r swyddogion baratoi gwybodaeth am faterion hysbys ar ffurf llinell amser ar gyfer y tymor.
3.5 Cytunodd y pwyllgor i gynnal cyfarfod ffurfiol ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru er mwyn cynnal sesiwn graffu gyda Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.
4. Dyddiad y cyfarfod nesaf
4.1 Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor am 09.00 ar ddydd Iau 14 Gorffennaf.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.